Rhif y ddeiseb: P-05-903

Teitl y ddeiseb: Ffilmio a Recordio Cyfarfodydd Cyngor

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i osod gofyniad statudol ar holl awdurdodau lleol Cymru i recordio, darlledu neu ddarparu ffrwd fyw o holl gyfarfodydd Cyngor sy’n agored i’r cyhoedd, a hynny drwy gyfrwng eu gwefannau presennol, i sicrhau bod y cyfarfodydd hyn yn agored ac yn dryloyw. Dylai'r gofyniad hwn ganiatáu i'r cyhoedd, fel arsylwyr cyfrifol, recordio neu ffilmio cyfarfodydd o'r fath heb fod angen caniatâd ymlaen llaw a dylai fod rhwydd hynt iddynt ailddefnyddio'r deunydd er mwyn cyfathrebu'n uniongyrchol ac yn ehangach ag etholwyr.

 


1.        Y cefndir

Ar hyn o bryd, nid oes gofyniad statudol ar awdurdodau lleol Cymru i ddarlledu cyfarfodydd cyngor ar eu gwefannau. Fodd bynnag, mae nifer o awdurdodau yng Nghymru yn darparu cyfleusterau gweddarlledu ar gyfer y rhan fwyaf o’u cyfarfodydd cyngor. Dros y blynyddoedd,  mae Gweinidogion Cymru wedi annog cynghorau i ddarlledu eu cyfarfodydd, neu rai ohonynt, i sicrhau bod eu trafodion ar gael i’r cyhoedd. Yn 2013, rhoddodd Llywodraeth Cymru arian i awdurdodau lleol i’w cynorthwyo i dalu am gyfarpar ac i barhau i gynnig y gwasanaeth.

Yn 2014, cyhoeddodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ganllawiau ar weddarlledu i aelodau cynghorau.    

Ym mis Awst 2014, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fersiwn ddiwygiedig o’r Cod Ymarfer a Argymhellir ar Gyhoeddusrwydd Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Yn yr adran ar Ffilmio a darlledu cyfarfodydd cyngor, nodir bod ‘cymdeithas’ yn disgwyl cael mwy o wybodaeth am y modd y mae cyrff etholedig yn gwneud penderfyniadau. Mae’n parhau drwy nodi bod:

Anogir awdurdodau lleol i wneud trefniadau i sicrhau bod eu trafodion yn fwy agored i’r cyhoedd drwy ganiatáu iddynt gael eu darlledu. Gall yr awdurdod gyflawni hyn drwy roi llif byw neu recordiadau ar wefan y cyngor neu drwy gyfrwng arall ar y we.

Yn 2017, cyhoeddodd Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cabinet ar y pryd dros Lywodraeth Leol, Bapur Gwyn – Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad. Cynigiodd yr Ysgrifennydd Cabinet y dylai fod yn ‘ofyniad statudol’ i ddarlledu cyfarfodydd cyngor (para. 5.2.5). Fodd bynnag, ni chafodd y cynigion yn y Papur Gwyn eu datblygu ymhellach.

 

Hawl y cyhoedd i ffilmio, tynnu lluniau a chynhyrchu recordiad sain

Ar hyn o bryd, nid oes rhwymedigaeth statudol ar awdurdodau lleol Cymru i ganiatáu i’r cyhoedd (neu gyrff cyfryngau) i ffilmio, tynnu lluniau neu gynhyrchu recordiad sain mewn cyfarfodydd cyngor.

Mae Deddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014  yn darparu i’r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau i orfodi cynghorau yn Lloegr i ganiatáu i unigolion ffilmio, tynnu lluniau neu gynhyrchu recordiad sain mewn cyfarfodydd cyngor. Fodd bynnag, nid yw’r Rheoliadau wedi’u pasio yn Lloegr eto.  Y cynghorau eu hunain, felly, sydd â’r hawl i ganiatáu i’r cyhoedd ffilmio cyfarfodydd cyngor yn Lloegr.

Yn yr un modd, ar hyn o bryd nid oes rhwymedigaeth statudol ar awdurdodau lleol yr Alban neu Ogledd Iwerddon i ganiatáu i’r cyhoedd recordio sesiynau’r cyngor. 

Yn ei Chod Ymarfer a Argymhellir ar Gyhoeddusrwydd Awdurdodau Lleol yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn annog awdurdodau lleol i ganiatáu i’r cyhoedd ffilmio neu recordio cyfarfodydd cyngor. Mae’r Cod yn nodi:

§  54. Gwelwyd sawl achos amlwg iawn lle gwnaeth aelodau’r cyhoedd recordio a darlledu cyfarfodydd y cyngor, a byddai Llywodraeth Cymru’n cymell awdurdodau lleol i dderbyn hyn cyn belled â bod y rheini sy’n bresennol yn y cyfarfod yn ymwybodol bod hyn yn digwydd ac nad yw’n amharu’n ormodol ar aelodau eraill o’r cyhoedd.

 

§  55.Yn amlwg, ni ddylai’r cyfleusterau hyn fod ar gael os yw’r awdurdod neu un o’i bwyllgorau’n trafod busnes cyfrinachol neu esempt fel y’i diffiniwyd yn Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

Mae rhai awdurdodau yng Nghymru wedi dilyn yr argymhellion hyn, ac mae ganddynt bolisïau ar waith yn ymwneud â chaniatáu i’r cyhoedd ffilmio cyfarfodydd cyngor. Mae rhan o gyfansoddiad Cyngor Caerdydd, er enghraifft  (Rhan 5 – Codau a Phrotocolau), yn cynnwys polisi’r cyngor ynghylch ffilmio a gweddarlledu. Yn ôl y polisi, mae gwybodaeth am ffilmio cyfarfodydd yn cael ei chynnwys ym Mhecyn Agenda pob cyfarfod ac, os bydd cyfarfod yn cael ei ddarlledu, bydd yn cynnwys y wybodaeth a ganlyn

Gweddarlledu

Caiff y cyfarfod hwn ei ffilmio ar gyfer ei ddarlledu’n fyw neu’n ddiweddarach ar wefan y Cyngor.  Caiff yr holl gyfarfod ei ffilmio, heblaw am eitemau eithriedig neu gyfrinachol, a bydd y ffilm ar gael ar y wefan am 6 mis.  Yn ogystal, bydd copi’n cael ei gadw yn unol â pholisi cadw data’r Cyngor. [Mae hawl hefyd i’r cyhoedd ffilmio neu recordio’r cyfarfod hwn] Os ydych yn ymddangos gerbron y pwyllgor ystyrir eich bod wedi cydsynio i gael eich ffilmio.   Wrth fynd i gorff y Siambr, rydych hefyd yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r posibilrwydd y caiff y lluniau a’r recordiadau sain hynny eu defnyddio at ddibenion gwe-ddarlledu a/neu hyfforddi.  Os nad ydych am i’ch llun gael ei dynnu, dylech eistedd yn yr oriel gyhoeddus. .   

Mae cyfansoddiad Cyngor Sir Fynwy hefyd yn nodi bod y Cyngor yn caniatáu i unigolion ffilmio a defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn ystod cyfarfodydd, ond rhaid sicrhau nad yw hynny’n amharu ar y cyfarfod.

2.     Y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru

Yn ei ddatganiad deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Gorffennaf 2019,  dywedodd y Prif Weinidog y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn yr hydref. Bydd y ddeddfwriaeth, meddai’r Prif Weinidog, ‘yn cryfhau democratiaeth, atebolrwydd a pherfformiad awdurdodau lleol”. Nid yw’n hysbys eto pa ddarpariaethau gaiff eu cynnwys yn y Bil. Ar ôl cyflwyno’r Bil, bydd rhanddeiliaid yn cael cyfle i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad perthnasol.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.